Bragdy crefft gwobrwyedig bro Dyffryn Nantlle yw Bragdy Lleu. Rydym yn creu cwrw o safon uchel gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o’r safon uchaf.
Wedi ein sefydlu yn 2013, rydym yn cefnogi'r economi leol ac yn frwd dros iaith, hanes a diwylliant ardal Dyffryn Nantlle - ardal y Mabinogi. Mae pob cwrw rydym yn ei greu yn cael ei enwi ar ôl cymeriadau o’r chwedlau byd enwog, a nodweddion y cymeriadau hynny yn cael eu cyfleu yn nodweddion unigryw pob cwrw.
Mae’r busnes yn ehangu yn gyson, a bellach rydym yn cyflenwi casgenni i dafarndai ar draws Gogledd Cymru ac yn cyflenwi poteli i dafarndai, siopau a bwytai ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Yn ogystal rydym yn gwerthu'n uniongyrchol o’r bragdy ac yn mynychu sioeau amrywiol gyda’n bar symudol ac yn darparu cwrw ar gyfer digwyddiadau yn cynnwys priodasau a dathliadau o bob math.
Cwrw’r Celtiaid… 800 mlynedd o etifeddiaeth ymhob diferyn.
Daeth yr ysbrydoliaeth i greu’r cwrw euraidd hwn o hanes Blodeuwedd, y ferch brydferth yn chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Crëwyd Blodeuwedd gan Gwydion, y dewin, o amrywiaeth o flodau’r maes, ac mae’r nodweddion ysgafn, blodeuog hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cwrw arbennig hwn sydd â blas mwy arno.
Alc. 3.6% VOL
Ar gael mewn casgen a photel
Caiff y cwrw ei enw ar ôl cymeriad Lleu o chwedlau’r Mabinogi sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Roedd Lleu yn gymeriad cryf, cofiadwy a deniadol, ac rydym wedi gweithio’n galed i gyfleu’r nodweddion hynny yn y cwrw yma. Mae Lleu yn cyfuno blas haidd a hopys naturiol sy’n cyfuno i greu cwrw unigryw.
Alc. 4.0% VOL
Dewin ac arwr oedd Gwydion yn chwedlau’r Mabinogi sydd â’u gwreiddiau yn ardal Dyffryn Nantlle. Roedd Gwydion yn gymeriad cryf a hudolus a dyna yn union ein bwriad wrth greu’r cwrw chwerw traddodiadol hwn. Mae cyfuniad gofalus y cynhwysion naturiol a’r broses fragu ei hun yn creu cwrw blasus gyda blas cofiadwy. Swyn, ym mhob diferyn!
Alc. 4.7% VOL
Brenin coronog Ynys y Cedyrn oedd Bendigeidfran, o chwedlau’r Mabinogi, sydd â’u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Roedd Bendigeidfran yn gawr o ddyn, ac yn ddewr a chryf o gymeriad, nodweddion sy’n cael eu hadlewyrchu yn y cwrw arbennig yma. Ein hysbrydoliaeth oedd i greu cwrw cryf, blasus, Cymreig, a dyna pam fod lliw yr IPA hwn yn wahanol i rai eraill yn goch. Cawr o gwrw!
Alc. 5% VOL
Bragdy LleuStad Ddiwydiannol PenygroesCaernarfon, LL54 6DB 07724 902532 [email protected]