Os ydych chi yn fasnachwr ac eisiau gwerthu ein cwrw yn eich bar, siop, bwyty, caffi, ayb. byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Rydym yn danfon yn lleol mewn rhannau o Wynedd, Ynys Môn a Chonwy bob wythnos ein hunain, ac yn gweithio gydag amrywiaeth o gyfanwerthwyr all gyflenwi ein cwrw i chi ledled y wlad.
Mae croeso i chi anfon e-bost atom ar [email protected] i roi cychwyn arni. Os ydych chi yn ein hardal, byddwn yn anfon rhestr brisiau atoch ac yn eich sefydlu ar gyfrif danfon uniongyrchol. Os ydych chi y tu allan i'n hardal ddanfon, byddwn yn eich rhoi mewn cyswllt â'n partneriaid cyfanwerthu gwych.