Siop a Bar

Mae siop a bar y bragdy ar agor i'r cyhoedd, ble mae gennym ystod eang o ddiodydd a byrbrydau Cymreig o'r safon uchaf ar gael i'w mwynhau ar y safle neu i fynd gyda chi fel anrhegion.

Fel arfer mae gennym bedwar cwrw casgen ar gael (rydym yn eu cylchdroi'n aml yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei fragu) yn ogystal â detholiad llawn o'n cwrw potel.

Cewch yma groeso cynnes, cwrw gwych a lle i gysylltu gyda pobl trwy sgwrs gyfeillgar a gemau bar traddodiadol. Wrth fwynhau eich peint, gallwch weld ble cafodd ei gynhyrchu trwy ffenestr wylio i'r bragdy ei hun.

Pan fydd y tywydd yn braf, mae gennym feinciau allanol i fwynhau diod oer yn yr haul, gyda golygfeydd tuag at Grib Nantlle a'r Wyddfa.

Mae bar fel arfer ar agor o 4-10yh bob dydd Gwener a dydd Sadwrn, tra bod y siop fel arfer ar agor 10yb-4yp dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau ac o 10yb - 10yh ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Gweler Google am ein horiau agor diweddaraf neu mae croeso i chi gysylltu gyda ni.

Rydym hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau preifat. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.